Switch LanguageSwitch Language

Perchnogaeth Coedwig Gymunedol- Basin y Congo

6
Congo2
Congo3

Crynodeb o’r Prosiect:

Yn ail ysgyfaint i’r byd (ar ôl yr Amazon), mae 75% o’r ardal hon o fasn y Congo yn goedwig drofannol. Mae’r ardal werthfawr hon dan fygythiad oddi wrth y diwydiant torri coed dinistriol.

Mae’r prosiect hwn yn galluogi’r gymuned leol i glustnodi a mapio tir coediog arferol mewn 150,000 hectar o goedwig wrth baratoi i gael hawliau tir ffurfiol ar gyfer yr ardal. Bydd y ffaith fod y bobl sy’n dibynnu ar y goedwig yn dal yr hawliau eu hunain yn helpu i amddiffyn y coedwigoedd a bywoliaethau pobl, gan greu dyfodol mwy cynaliadwy i bawb.

Statws y Prosiect

Mae Well Grounded yn darparu cymorth technegol a chymorth i godi arian i rwydwaith lleol o fudiadau o’r enw RRN sydd wedi cychwyn ar broses ymgynghori i ddarganfod pa gymunedau sy’n awyddus i gofrestru eu tiroedd o dan y ddeddfwriaeth newydd ar gyfer coedwigoedd cymunedol y mae disgwyl iddi gael ei chadarnhau cyn hir. Caiff y prosiect hwn ei noddi’n rhannol gan bartner i brosiect Maint Cymru, Natsol. Cafwyd cymorth ariannol arall gan Sefydliad Coedwigoedd Glaw Norwy.

Bydd y Rhwydwaith Adnoddau Naturiol yn cydweithio â chymunedau i’w helpu i ddatblygu ceisiadau ar gyfer coedwigoedd cymunedol ac i gael teitlau, cyn gynted ag y bydd y ddeddfwriaeth wedi mynd drwodd. Y gwaith a wneir ar hyn o bryd yw mapio cymunedau a hwyluso trafodaethau o fewn a rhwng cymunedau i’w helpu i egluro sut y byddant am eu trefnu eu hunain. Mae un gweithgaredd rhagbrofol wedi’i gwblhau ym mhentref Nkaw, sydd â rhan o’i goetiroedd o fewn ardal lle rhoddwyd hawl i dorri coed a rhan ohonynt y tu allan. Mae un llwyth sy’n hela a chasglu ac un llwyth sy’n amaethu yn Nkaw yn debygol o ddatblygu cais ar y cyd am goedwig gymunedol a fydd yn cynnwys yr holl dir cymunedol lle na roddwyd hawl i dorri coed. Ar ôl ymweliadau i gwmpasu mewn cymunedau eraill, mae’r Rhwydwaith Adnoddau Naturiol wrthi ar hyn o bryd yn gwerthuso’r dewisiadau ar gyfer cynorthwyo cymunedau eraill yn Oshwe, yn ogystal ag un neu ragor o gymunedau o bosibl mewn tiriogaethau eraill. Mae un gymuned yn Oshwe eisoes wedi mynegi diddordeb a bydd y Rhwydwaith yn cydweithio â hi yn ystod mis Mai i lunio rhai mapiau rhagarweiniol.

Yn ystod camau nesaf y prosiect rhoddir cymorth i’r cymunedau i ddefnyddio’r mapiau y maent wedi’u datblygu er mwyn paratoi cynlluniau rheoli a’u rhoi ar waith wedyn.

 

            

Dem. Rep. Congo (Zaire)

Well Grounded

Réseau Ressources Naturelles