
Y SyniadWedi hanes hir o ddatgoedwigo yng Nghymru, rydym bellach yn raddol yn cynyddu ein coedwigoedd ac yn amddiffyn ein coetir cyfredol. Fodd bynnag, o safbwynt newid hinsawdd a lleihau tlodi, dinistr y coedwigoedd trofannol sy’n bygwth hinsawdd y byd ac anghenion sylfaenol bywyd, sef bwyd, lloches a bywoliaeth i’r trigolion.
Crewyd Maint Cymru fel rhan o ymateb Cymru i ddwy sialens, sef newid hinsawdd a lleihau tlodi rhyngwladol. Arweiniwyd y datblygiad gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy, Peter Davies a Chadeirydd Sefydliad Waterloo, Heather Stevens, mewn trafodaeth gyda nifer o bobl eraill yng Nghymru a thu hwnt.
Rydym yn dîm bach ag uchelgais mawr!
Cyfarwyddwr: Claire Raisin claire@sizeofwales.org.uk
Rheolwr Ymgyrchoedd: Lowri Jenkins lowri@sizeofwales.org.uk
Mae’r Cyn Hyrwyddwr Newid Hinsawdd dros Gymru, Seb Giraud yn cynnal ein wefan hefyd.
Mae costau sylfaenol yr elusen yn cael eu hariannu ar y cyd gan Llywodraeth Cymru a’r Sefydliad Waterloo, sy’n golygu bod yr holl arian sy’n cael ei godi yn cael ei drosglwyddo i’n partneriaid prosiect.