Switch LanguageSwitch Language

Beth yw Maint Cymru

Nod Maint Cymru yw uno pawb yn y wlad i helpu i gynnal ardal o goedwig drofannol sydd yr un maint â Chymru, fel rhan o ymateb cenedlaethol i newid hinsawdd.

Defnyddir y term ‘ardal maint Cymru’ yn aml i fesur graddfa dinistr coedwigoedd. Drwy brosiect Maint Cymru, anelwn at wyrdroi’r defnydd negyddol hwnnw o faint y wlad, drwy annog pobl Cymru i gymryd camau cadarnhaol a helpu i amddiffyn ardal o goedwig law sy’n cyfateb i faint ein gwlad.

Ar 1af o Fawrth 2013, fe lwyddodd cefnogwyr Maint Cymru i gyrraedd y targed o godi £2 filiwn i helpu amddiffyn ardal o goedwig law sy’n cyfateb i faint Cymru!

Yn elusen amgylcheddol, mae Maint Cymru yn uno cymunedau, busnesau, mudiadau ac ysgolion i helpu i amddiffyn 2 filiwn o hectarau o goedwigoedd glaw, a meithrin cysylltiadau parhaol gyda rhai o bobl dlotaf y byd.

Mae cefnogwyr Maint Cymru yn cael eu cysylltu’n uniongyrchol gyda phrosiectau a chymunedau mewn coedwigoedd glaw, er mwyn sicrhau rheolaeth gynaliadwy o adnoddau’r goedwig a gwneud cyfraniad sylweddol at leihau allyriadau carbon byd-eang. Mae ein prosiectau coedwig yn helpu i gadw coedwigoedd trofannol sydd eisoes yn bodoli ledled Affrica a De America, yn ogystal â chefnogi cymunedau lleol i gynyddu coedwigoedd er lles pobl, bywyd gwyllt a’r ddaear. Mae cyfanswm arwynebedd y prosiectau coedwig yn 2 filiwn o hectarau – sy’n cyfateb i faint Cymru.