Mae cynllun cenedlaethol unigryw i helpu i gynnal ardal o fforest law Maint Cymru wedi codi £1 miliwn, sef hanner ffordd tuag at ei nod.
Mae Maint Cymru hefyd yn anelu at godi ymwybyddiaeth ynglŷn â phwysigrwydd amddiffyn fforestydd glaw, fel rhan o’n hymateb cenedlaethol i newid hinsawdd.
Mae fforestydd glaw’r byd yn amsugno bron i bumed ran o allyriadau carbon deuocsid a grëir gan ddyn yn fyd-eang, ac mae’r prosiect yn anelu at helpu i ddiogelu ardal o fforest law yr un maint â Chymru, a thrwy hynny ysbrydoli gwledydd eraill i wneud yr un fath.
Gyda’i gilydd, mae pobl Cymru a thu hwnt wedi codi £1 miliwn tuag at y nod terfynol o £2 filiwn. Mae £1 yn helpu i ddiogelu un hectar – neu, i’w roi yn fwy syml, un cae rygbi, ac mae hyn yn golygu bodd yr elusen erbyn hyn wedi helpu i ddiogelu a phlannu ardal o fforest drofannol hanner maint Cymru. Mae ein partneriaid newydd yn cynnwys: Cymorth Cristnogol Cymru; Specsavers Caerdydd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Mae’r trefnwyr yn annog pawb – unigolion, cyflogwyr, ysgolion, colegau neu grwpiau cymunedol – i gyfranogi drwy godi arian.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Prosiect, Hannah Scrase “Mae ein partneriaid a’r elusennau sy’n ein cynorthwyo wedi cyflawni gwaith ardderchog i’n helpu i gyrraedd hanner ffordd, ac mae’n wirioneddol wych gweld yr effaith gadarnhaol mae’r cyfraniadau wedi’u cael ar gymunedau sy’n byw mewn fforestydd yn rhai o wledydd tlotaf y byd.
Cafwyd mentrau codi arian ardderchog ledled Cymru – megis sêls cist car, rasys hanner marathon, rafflau rygbi a nosweithiau comedi. Yn ogystal â hyn mae’r holl arian a godwyd wedi’i ddyblu gan ein cronfa arian cyfatebol.”
Dywedodd Daniel Madge, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan: “Rydym yn hynod falch o fod yn rhan o brosiect a fydd yn rhoi llwyfan i’r cyfraniad y mae Cymru’n ei wneud i helpu i ddiogelu fforestydd trofannol, a hyrwyddo’u pwysigrwydd mewn perthynas â newid hinsawdd. Y penwythnos hwn cymerodd tri aelod o’n staff ran yn Hanner Marathon Cymru i godi arian ar gyfer y prosiect Coed Ffrwythau ym mhrifddinas Ethiopia, Addis Ababa.”
Dywedodd Frank Moloney o Specsavers Caerdydd:
“Mae Specsavers Caerdydd yn hynod falch o gael dod â gwaed newydd i’r prosiect amgylcheddol cyffrous hwn. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weithio gyda’r partneriaid presennol i helpu i yrru’r prosiect hwn tuag at y nod terfynol, sef helpu i ddiogelu dwy filiwn hectar o fforest law – sy’n cyfateb i 2 filiwn o gaeau rygbi!”
Bydd yr arian a godir yn cael ei wario ar ystod o weithgareddau a fydd yn helpu i ddiogelu’r fforestydd – o brynu egingoed i ariannu wardeniaid a chefnogi trigolion lleol i lobïo dros berchnogaeth tir a hawliau rheoli. Ar hyn o bryd mae cefnogwyr a phartneriaid y prosiect mewn cysylltiad uniongyrchol â chymunedau a phrosiectau yn Affrica a De America.
Mae prosiect Maint Cymru yn gobeithio y bydd y genedl gyfan yn troi’n wyrdd am ddiwrnod ar 19 Hydref 2012 i’n helpu i godi arian tuag at y nod o £2 filiwn.
I gael gwybod mwy am sut gallwch chi a’ch gweithle gymryd rhan ewch i www.sizeofwales.org.uk
Dilynwch ni ar: @sizeofwales Join us: facebook.com/sizeofwales
Comments are closed.
