Mae Ru Hartwell o Lanbedr Pont Steffan ac yn gweithredu fel y prif gyswllt rhwng Maint Cymru ac ein prosiect “Lampeter-Bore Community Carbon Link project“.
Rwy’n sefyll yng nghanol coedwig ddrain gras ac eithriadol o boeth. Mae’r haul mor llethol mae dyn yn reddfol yn chwilio am gysgod a rhyw fath o seibiant. Dilynaf fy nhywysydd Giriama, Alex tuag at grŵp bach o gytiau mwd simsan o amgylch ‘clos’ canolog o glai coch cras, ac rwy’n teimlo ‘mod i’n sydyn wedi cerdded i mewn i un o’r adroddiadau newyddion hynny am newyn yn Affrica, sydd mor gyfarwydd i bob un ohonom. Mae’r bobl rwy’n siarad â nhw yn boenus o denau a dim ond ambell i lond côl o gobynnau indrawn ar ôl ganddynt i’w bwyta… Mae un dyn yn dioddef o’r gwahanglwyf, ac mae’n gorwedd ar wely â’i deulu estynedig o’i amgylch. Mae pawb yn ddigalon “yn aros am y glaw”. Mae Alex yn cyfieithu fy ystrydebau a minnau’n teimlo’n ddiymadferth am na fedraf helpu’r bobl hyn. Ai yn Ethiopia ydw i, neu Somaila efallai? Na, rwyf yn Rhanbarth Arfordirol cymharol lewyrchus dwyrain Kenya. Er gwaethaf rhai problemau diweddar gyda môr ladron ac ambell herwgipiad, mae gan y rhan hon o Affrica fasnach dwristiaeth ffyniannus, economi sy’n tyfu a llu o adnoddau naturiol. Sut all hyn ddigwydd mewn gwlad a ystyrir yn aml yn enghraifft o ddatblygu rhanbarthol llwyddiannus?
Ȃ’r gwres llethol yn cynyddu wrth i’r haul cyhydeddol godi yn union uwch ein pennau, rwy’n stopio meddwl ynglŷn â sut y daeth pethau i fod mor wael, ac yn dianc nôl i’r car llog a’i system awyru hyfryd. Ar ôl i’r tymheredd a f’emosiynau sefydlogi cofiaf fy mod yma i roi adroddiad ar weithrediad Grant Ynni Glân Cymru/Affrica, a ariennir gan y llywodraeth, ac sy’n anelu at gryfhau’r gymuned Is-Saharaidd hon yn wyneb bygythiad cynyddol newid hinsawdd. Fy ngwaith i yw sicrhau bod arian trethdalwyr Cymru yn cael ei wario mewn modd call, ac mewn modd sydd o fudd i’r gymuned gyfan. Gyrrwn i’r ‘shamba’ nesaf a, diolch i’r drefn, mae’r teulu hwn mewn sefyllfa ychydig yn well – mae ganddynt afalau pîn, storfa lawn o indrawn a hen feic. Daw’n amlwg yn fuan iawn pam. Mae mwg yn codi o dwmpath lle mae eu fforest drofannol yn cael ei llosgi heb ocsigen i wneud siarcol. Dywed Alex bod y gwarant o gael 300 Swllt Ceniaidd y bag (£2.20 yn ein harian ni) yn golygu nad oes dewis gan y ffermwyr ymgynhaliol sy’n berchen ar y fforest ond ei thorri i lawr i gynhyrchu siarcol.
Rwy’n eu holi am y teulu a welsom yn gynharach. Mae Alex yn cyfieithu. Y rhan fwyaf o’r flwyddyn mae yna ddigonedd o fwyd yn y fforest, ond pan mae’r glawogydd yn hwyr nid yw’r teuluoedd yn yr ardaloedd anffrwythlon yn gallu ymdopi. Ac yna, os nad yw cynhaliwr y teulu yn gallu gweithio…mae’n oedi cyn dweud…”mae ganddyn nhw broblemau”. Mae’n edrych i’r awyr gan lefaru’r fersiwn Swahili o “Mae yn nwylo Duw”.
Un peth nad yw Alex a gweddill ei gymuned yn gwybod yw ei fod bron yn sicr mai ein ffordd o fyw carbon wastraffus ni yn y byd datblygedig sy’n achosi eu problemau. Yng Nghymru mae’r allyriadau CO2 fesul pen tua 12 tunnell y flwyddyn. Yn Kenya mae’n llai nag ugeinfed ran o hynny. Mae meddwl am yr anghyfiawnder hwn yn y car yn gwneud i mi deimlo braidd yn anesmwyth, ychydig yn ofidus a phoeth, felly rwy’n troi’r system awyru i fyny a chyn hir mae popeth yn iawn unwaith eto…
Iawn, dyna ddigon am y newyddion drwg. Y newyddion da yw fod Bore, er gwaethaf rhai problemau difrifol, yn un gymuned yn Affrica Is-Sahara sy’n cryfhau yn hytrach na’n gwanhau. Mae’r Grant Ynni Glân yn gweithio’n dda, ac mae’n helpu’r gymuned gyfan i addasu i argyfyngau newid hinsawdd. Erbyn hyn mae cyflenwad dŵr ynni solar yn golygu nad oes rhaid iddynt gludo dŵr dros bellteroedd mawr.
Mae cyfleuster cymunedol i wefru ffonau yn eu galluogi i gychwyn busnesau bach yn gyflym, ac i drosglwyddo symiau bychan o arian drwy eu system Mpesa (Arian Symudol). Ond yn well na hyn i gyd, gyda chymorth Maint Cymru a phobl gyffredin yn Llanbedr Pont Steffan, mae miloedd ar filoedd o goed yn llythrennol yn cael eu tyfu a’u dosbarthu ledled y gymuned a thu hwnt. Coed cashiw yw’r rhain yn bennaf, sydd yn tyfu’n hynod o gyflym, ac yn dechrau rhoi cnwd gwerthu uchel ei brotein o fewn cwta 3 blynedd, sef eu gobaith gorau am ffynhonnell incwm amgen sy’n gyfeillgar i’r fforest.
Mae Coed Cashiw, i ddefnyddio’r jargon botanegol, yn dangos addasiad seroffytig. I’r gweddill ohonom mae hyn yn golygu eu bod yn gallu gwrthsefyll sychder…sy’n beth da, o ystyried y ffordd rydyn ni gyfoethogion am barhau i fyw. Nawr, ble mae botwm y system awyru ‘na?
I helpu’r gymuned ym More rhowch i’r prosiect yma.
Comments are closed.


