Switch LanguageSwitch Language

Partner y mis: Toast

Partner y mis: Toast

Mae Toast yn cynllunio a gwerthu ystod gyfoes o ddillad i ddynion a menywod, yn ogystal â chynnyrch i’r cartref, i greu dewis moethus ar gyfer bob achlysur. Mae casgliad bob tymor wedi’i gynllunio a’i ddatblygu’n fewnol gan dîm cynllunio Toast, a’i gynhyrchu gan gyflenwyr yr ydym yn ymddiried ynddynt o bob cwr o’r byd. O ganlyniad, mae brand a chynnyrch Toast yn cael eu hystyried yn rai o safon uchel a chynllun gofalus.

Sefydlwyd Toast yn 1997 yng ngorllewin Cymru, felly rydym wedi dewis cefnogi Maint Cymru gan ei bod yn elusen lleol i ni.  Fel cwmni, rydym yn cymryd ein safbwynt moesegol o ddifrif, ac yn ymwybodol iawn o ddifrifoldeb y pwysau amgylcheddol sy’n wynebu ein planed, a’r ffaith mai’r unig ffordd i’w ddatrys yw drwy ymdrech barhaus.  Mae hyn yn cyfateb i nod Maint Cymru; uno i amddiffyn ardal o goedwig law Maint Cymru.

Yn ddiweddar, cyfrannwyd 10% o’n gwerthiant mewn diwrnod yn ein sêl gaeaf i elusen Maint Cymru. Cododd hyn £4,497, sydd wedi’i ddyblu’n awtomatig gan gronfa nawdd cyfatebol Maint Cymru i £8,994. Cyn hir byddwn yn sefydlu cynllun argymell ffrind, lle byddwn yn rhoi cyfraniad i Maint Cymru am bob argymhelliad y byddwn yn eu derbyn gan ein cwsmeriaid. Wrth symud ymlaen, byddwn yn parhau i gefnogi Maint Cymru ac edrychwn ymlaen at annog ein gweithwyr i gyfranogi.

Toast

Am fwy o wybodaeth am sut i ddod yn bartner cliciwch yma.

Comments are closed.