Switch LanguageSwitch Language

Cyfle gwaith gyda Maint Cymru.

Maint Cymru

  • Cynorthwyydd Ymgyrchu – Disgrifiad Swydd
  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Sul, Ionawr 8  2012  - anfonwch cv a llythyr at Pauline@ppmassociatesltd.co.uk
  • Dyddiad cyfweliad: Dydd Mercher, Ionawr 11a dydd Iau, Ionawr 12 2012
  • Cyfnod Cytundeb: hyd at Mawrth 31 2013
  • Cyflog: £16-20k am wythnos 5 diwrnod yn ddibynnol ar sgiliau a phrofiad 
  • Cyfle i weinyddwr brwdfrydig a threfnus, sydd â diddordeb mewn materion amgylcheddol a sgiliau cyfryngau cymdeithasol da, gyfrannu at y prosiect cenedlaethol arloesol a phroffil uchel hwn.

Y mudiad

Mae Maint Cymru yn gynllun cenedlaethol unigryw i gynnal ardal o goedwig drofannol maint  Cymru fel rhan o’n ymateb cenedlaethol i newid hinsawdd. Defnyddir ‘ardal maint Cymru’ yn aml i fesur cyfradd dinistr coedwigoedd. Drwy Maint Cymru anelwn at wyrdroi’r defnydd negyddol hwnnw o faint y wlad, drwy annog pobl Cymru i weithredu’n gadarnhaol a chynorthwyo i amddiffyn ardal o goedwig drofannol maint ein cenedl – www.sizeofwales.org.uk . Lansiwyd y prosiect yn 2010, mae wedi’i ariannu gan Sefydliad Waterloo ac mae ganddo dîm o bedwar o bobl.

Swyddogaeth

Bydd y Cynorthwyydd Ymgyrchu yn gweithio o swyddfa Maint Cymru yn Llandaf, Caerdydd ac yn cefnogi tîm Maint Cymru gydag ystod eang o dasgau i helpu i gyflawni cynllun gwaith 2012/13. Bydd prif feysydd gwaith fel a ganlyn, ond mae hyblygrwydd yn agwedd bwysig o’r swyddogaeth ac mae’n bosib y bydd angen cefnogaeth ar aelodau’r tîm mewn meysydd eraill ar adegau.

Rhaglen Partneriaeth

Cefnogi’r Rheolwr Partneriaeth yn ei swyddogaeth yn gweithio gyda mudiadau eraill yng Nghymru sy’n gysylltiedig â Maint Cymru:

  • Ymchwil rhyngrwyd ar bartneriaid posib
  • Ysgrifennu llythyrau ac e-bost at bartneriaid cyfredol a phosib, ac argraffu tystysgrifau
  • Cyfathrebu gyda phartneriaid ar y ffôn, a chynnal perthynas dda
  • Cadw cofnodion partneriaeth cyfredol (gan ddefnyddio Excel)

Rhaglen Cyfathrebu

  • Diweddaru’r wefan WordPress gyda newyddion dwyieithog, blogiau rheolaidd a gwybodaeth newydd, yn cynnwys newyddion / lluniau prosiectau coedwig sy’n cael eu darparu gan y tîm.(Defnyddir gwasanaeth cyfieithu.)
  • Gweithgaredd rhwydwaith cymdeithasol
    • Cynorthwyo gydag ymgysylltiad torfol Her Llwythau Cymru ar-lein
    • Cynorthwyo gyda Facebook a Twitter- gosod ac ymateb i negeseuon
    • Gweithio gyda’r rheolwr cyfathrebu i gynnal amserlen Facebook/blog/twitter
    • Monitro sylwadau a chyfeiriadau ar Twitter, Facebook, ac mewn blogiau
    • Rheoli gweithgaredd blogiau gyda staff a phartneriaid
    • Rheoli tudalen flickr a lluniau ar Facebook
  • Monitro sylw yn y wasg a thoriadau papur newydd

Gweinyddiaeth Gyffredinol

  • Cynnal a diweddaru’r llyfrgell lluniau
  • Rheoli stondin Maint Cymru mewn digwyddiadau, dosbarthu gwybodaeth ac annog ymgysylltiad gyda’r ymgyrch.
  • Cynnal a diweddaru bas data o gysylltiadau a phartneriaid
  • Trefnu cyfieithiadau ac argraffu deunyddiau
  • Tasgau gweinyddol eraill fel bo gofyn

Am gyfnod y cytundeb, prif flaenoriaeth Maint Cymru yw codi arian i helpu i amddiffyn 2 miliwn o hectarau o goedwig drofannol, a’r ail flaenoriaeth yw codi ymwybyddiaeth yng Nghymru am bwysigrwydd coedwigoedd trofannol, ond yn amlwg mae’r rhain yn gorgyffwrdd ac yn ategu ei gilydd.

Mae’r Cynorthwyydd Ymgyrchu yn atebol i’r Rheolwr Partneriaeth fel rheolwr llinell, ond bydd yn cyflawni gwaith dros a gyda phob aelod o dîm Maint Cymru. Bydd y llwyth gwaith a’r blaenoriaethau yn cael eu cynllunio a’u goruchwylio gan y Rheolwr Partneriaeth sydd hefyd yn swyddfa Caerdydd.

Mae’r swydd yn un 5 diwrnod yr wythnos (8 awr y dydd yn cynnwys 1 awr o doriad i ginio) ond gall ofyn am rywfaint o weithio hyblyg, yn gyfnewid am amser i ffwrdd.

 

Manylion Personol

Byddai’r swydd hon yn addas ar gyfer person sydd wedi graddio’n ddiweddar, sydd â sgiliau TG a chyfryngau newydd da, sy’n awyddus i weithio mewn ymgyrch amgylcheddol. Ar y llaw arall byddai gweinyddwr mwy profiadol, hyblyg, brwdfrydig a rhagweithiol yn ychwanegiad gwerthfawr i’r tîm.

Hanfodol

  • Y gallu i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol (Facebook, Twitter ayyb)
  • Sgiliau TG cyfredol ardderchog (e.e. Excel ac Office) a sgiliau rheoli cynnwys gwefannau (Word Press neu gyfatebol)
  • Sgiliau trefnu ardderchog
  • Chwaraewr tîm hyblyg a mentrus
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i amserlenni tynn
  • Y gallu i ysgrifennu testun clir a diddorol

Dymunol

  • Byddai siarad ac ysgrifennu Cymraeg rhugl yn fantais gref
  • Hyder wrth ddelio gyda phobl
  • Brwdfrydedd ac ymrwymiad at faterion amgylcheddol

Comments are closed.