30 Hydref 2011 Bae Caerdydd
Os ydych yn frwd dros amddiffyn coedwigoedd glaw, dyma gyfle i fod yn rhan o rywbeth unigryw ac enfawr.
Ar ddydd Sul 30 Hydref bydd flash mob enfawr yn dod i Fae Caerdydd, gyda chwmni ffilmio yn eu dilyn i ddal y foment ar gyfer hysbyseb i gefnogi’r achos.
Rydym yn edrych am bobl o bob oed a chefndir i fod yn rhan o’r criw unigryw hwn. Rydym yn gofyn i unigolion a grwpiau ymgasglu mewn dillad brown a gwyrdd (byddai cuddliw yn wych hefyd!)
Anfonwch ebost at rob@ziplinecreative.co.uk neu ffoniwch 07757620754 am fwy o wybodaeth ac i ddweud pwy ydych chi, a phwy fydd yn dod gyda chi! Gallwch roi gwybod i’ch ffrindiau eich bod yn cyfranogi ar y dudalen digwyddiadau ar Facebook .
Mae’n gyfle gwych i gefnogi achos da, cyrraedd y sgrin fawr, a chyfarfod gyda’r arweinydd, y comedïwr Dan Mitchell, a fydd yno ei hun.
Comments are closed.
